Cynhaliwyd y Gwasanaeth Datgorffori prynhawn Sul 1 Awst tan ofal Mr Martin Lewis, Llywydd Henaduriaeth Ceredigion a Gogledd Penfro. Fe’i cynhaliwyd ar brynhawn braf yn yr awyr agored o flaen y capel gan gadw’r gynulleidfa’n ddiogel. Roedd 35 yn bresennol, yn aelodau, cyn aelodau, cyfeillion a chynrychiolwyr o gapeli’r ardal ac o’r Henaduriaeth.
Trefnwyd y Rhaglen gyda chymorth y Llywydd a’r Parchedig Carwyn Arthur, Ysgrifennydd yr Henaduriaeth. Cyflwynwyd yr emynau, darlleniad a’r weddi gan y Llywydd gyda’r Parchedig Roger Ellis Humphreys yn arwain y canu.
Cyflwynwyd Hanes yr Achos gan y Parchedig Stephen Morgan. Cawsom ganddo ddarlun cyfoethog o gefndir a hanes y capel yn seiliedig ar waith ymchwil trylwyr. Gorffennodd ei gyflwyniad gyda cherdd gyfansoddodd yn arbennig ar gyfer y Gwasanaeth:
Yma bu bendith y Ffynnon
Yn ffrydiau iachusol di drai,
A’r werin fu’n ddrachtio yn gyson
O’r tarddiad sy’n rinweddol lanhau.
Caed gafael ar Efengyl yr Iesu
Drwy bregeth a gweddi a mawl;
Er estyn rhinweddau gwir gariad
I’r di-freintiau gael haeddiant, – eu hawl.
Daliwn ati i dynnu o’r Ffynnon
Er mwyn byw yn union a thriw,
Gan estyn hanfodion gwir fywyd
A berffeithiwyd yn Iesu gan Dduw.
Diolch yn fawr i aelodau Capel Maesyffynnon yn arbennig Mrs Sally Davies, Trysorydd, Mrs Mair Spate, Ysgrifennydd a Mr Eifion Davies am eu croeso hyfryd a’u trefniadau gofalus. Cafwyd cyfle i ymweld â’r adeiladau am y tro olaf ar derfyn y Gwasanaeth.
Diolch i Mrs Sally Davies a Mr Martin Lewis am eu cyfweliadau yn y capel a’u parodrwydd i sgwrsio gyda Clonc360.