Diwrnod a hanner ym Mart Llanybydder

Recordiau newydd yn cael eu torri ym Mart Da Stôr ddoe.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Cafwyd diwrnod a hanner ym mart Llanybydder ddoe gyda’r trêd a’r dân!

Gwerthwyd dros 700 o dda stôr ym Mart Llanybydder ac roedd y trêd yn aruthrol o dda. Mae’n deg i ddweud bod y prisiau yn gwella bob mis a ddoe gwelwyd recordiau newydd yn cael eu torri, gyda’r eidon gorau yn gwerthu am £1770 o eiddo Bowen, Pwllglas, Llanllwni a’r aner gorau yn gwerthu am £1630 o eiddo Jones, Frongelyn, Cribyn. Y pris gorau am fuwch a llo oedd £1825 a phris gorau am fuwch oedd £1355.

Braf oedd gweld y cylch gwerthu yn llawn o brynwyr lleol a thu hwnt a hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad.

Bydd y farchnad nesaf ar yr 8fed o Fai felly cofiwch gofrestru yn gynnar os oes stoc gyda chi i werthu. Yn ogystal, ar y 29ain o Fai bydd arwerthiant stoc magu, felly byddai’n braf cael eich cefnogaeth unwaith eto.

Diolch am bob cefnogaeth.