Dim Sioe Amaethyddol yn Llanbed eleni eto, ond dyma ychydig o’i hanes

Sefydlwyd y gymdeithas mewn cyfarfod yng Ngwesty’r Llew Du mor bell nôl â’r 5ed Rhagfyr, 1846.

gan Selwyn Walters

Mae’n destun gofid mawr, fel yn achos cymaint o ddigwyddiadau eraill, bod Sioe Amaethyddol Llanbed wedi’i chanslo eto oherwydd cyfyngiadau Coronafeirws.

Dyma’r tro cyntaf ers 1877 i’r Sioe gael ei chanslo yn ystod amser o heddwch ar ddau achlysur yn olynol. Wrth gwrs, ni chynhaliwyd unrhyw sioeau yn ystod y ddau Ryfel Byd, rhwng 1914 a 1918, a 1939 a 1945, er y cynhaliwyd sioe lai, answyddogol, ym 1944, i godi arian ar gyfer Cymdeithas y Groes Goch.

Ychydig iawn o sioeau yn unig sydd wedi cael eu canslo am resymau eraill, fel y tywydd a chlefyd y gwartheg. Mae hwn yn gofnod gwych o wasanaeth i’r gymuned ffermio o amgylch Llanbed, ac yn wir, i Gymru gyfan.

Trefnir y sioeau gan Gymdeithas Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan, a sefydlwyd mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Llew Du ar y 5ed Rhagfyr, 1846.  Ceir braslun o hanes y gymdeithas a’r sioe dros y blynyddoedd yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc.  Cofiwch brynu copi yn y siopau lleol.

Rhaid diolch i genedlaethau o bobl weithgar sy’n rhoi o’u hamser rhydd i gadw Cymdeithas Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan a’i Sioe i fynd trwy amseroedd da a drwg, dim un anoddach na’r sefyllfa bresennol yr ydym ynddi. Gadewch inni obeithio y gellir cynnal y Sioe unwaith eto’r flwyddyn nesaf, pan fyddwn yn gallu dathlu’r 175fed pen-blwydd y Sioe gyntaf a gynhaliwyd ym 1847.