Ddoe bu Elis Griff Jones, Seb Gregson a Celt Davies o Gwmann yn cynrychioli Abertawe wrth chwarae pêl-droed yn erbyn Wolves ac Arsenal.
Mae’r tri ym mlwyddyn 2 Ysgol Carreg Hirfaen. Cafwyd gemau caled iawn ddoe gyda sgôr gyfartal 2-2 mewn un gêm a cholli 5-2 yn y llall.
Mae’r tri wrth eu bodd yn chwarae dros Lanbed a thros ysgolion Sir Gâr. Cafodd y tîm hwnnw gêm yn erbyn Abertawe dau fis yn ôl ac ennill felly gwahoddwyd hwy i ymarfer gydag Abertawe.
Mae hyn yn dipyn o ymrwymiad i’r bechgyn a’u rhieni. Dywedodd mam Elis “Rydym fel rhieni yn cymryd ein tro i fynd â’r bois 45 milltir lawr i Abertawe pob nos Fercher i hyfforddi ac i’r gemau dros y penwythnos.”
Heddiw, maen nhw wedi mynd am daith o gwmpas stadiwm newydd Spurs gan fod Elis Griff yn cefnogi’r tîm hwnnw.
Ac wrthgwrs, mae’r tri yn cefnogi Cymru ac yn hapus iawn bod y tîm yn gwneud yn dda yn yr Ewros! “Ymlaen heno i guro’r Eidal.” yw eu gobaith.