? 36. Dylan Edwards, Carpet Corner – y flwyddyn a fu

Dyma’r 36ain mewn cyfres o gyfweliadau fideo â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Mae’n flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Mae Dylan Edwards yn rhedeg siop gwerthu carpedi a dodrefn a busnes gosod carpedi yn Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan. Diolch iddo am ateb cwestiynau Clonc360.