Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Mae’n flwyddyn ers dechau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid19 arnynt yn y flwyddyn.
Eifion Williams, Crown Stores o gwmni J H Williams a’i feibion yn Llanbed yw’r trydydd ar ddeg i ymddangos mewn cyfres o fideos gan Clonc360. Mae Eifion yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn drwy gludo bwyd a nwyddau cartref i drigolion lleol sy’n hunan ynysu.
Bu sawl siop gan J H Williams a’i feibion yn Llanbed tan iddynt gau rhai blynyddoedd yn ôl, ac ar un adeg roedd ganddynt siop lestri yng Nghaerfyrddin hefyd.