Ha ha ha! Hi hi hi! Eisteddfod Capel y Groes yn torri tir newydd eto

180 o gynigion ar ganu, llefaru, llên a chelf mewn eisteddfod rithiol arall.

gan Dylan Iorwerth

Flwyddyn ar ôl llwyddiant ysgubol Eisteddfod Fach ddigidol gynta’r byd, mae criw Eisteddfod Capel y Groes Llanwnnen yn gwneud pethau newydd eto.

Ymhlith bron 180 o gynigion ar ganu, llefaru, llên a chelf, mae 27 o blant wedi cymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth holloll newydd – dweud jôc.

Fe fydd cyfle i chwerthin llond bol yn dod ddydd Mercher 7 Ebrill pan fydd yr holl gystadlu i’w weld ar dudalen facebook Eisteddfod Capel y Groes, gan ddechrau am 9.30 y bore.

Dwsinau o gystadleuwyr

Ar hyn o bryd, mae’r beirniaid yn mynd drwy’r tapiau fideo, y lluniau, y posteri, y cerddi, y straeon – a’r jôcs – gyda’r rhan fwya’ o’r cystadlaethau ar gyfer plant yr oedrannau meithrin a chynradd.

Yr un eithriad yw’r Tlws Ieuenctid a gaiff ei gyflwyno i’r llenor gorau ac mae Meinir Davies, Caerwenog, wedi cynllunio tlws hardd ar gyfer yr enillydd.

Y llynedd, wrth i ddigwyddiadau gael eu canslo ar hyd a lled Cymru, y penderfynodd pwyllgor yr Eisteddfod beidio ag ildio a chynnal yr ŵyl flynyddol ar-lein.

Fe osododd hynny esiampl ar gyfer gwyliau eraill, gan gynnwys Eisteddfod T yr Urdd, ac eleni mae nifer o eisteddfodau eraill wedi cysylltu i ofyn am gyngor ar gynnal eu gwyliau rhithiol eu hunain.

Llwyddiant mawr

“Roedd yr eisteddfod ddigidol y llynedd yn llwyddiant mawr,” meddai Cadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod, Manon Richards. “Gyda’r cyfnod clo wedi dechrau, fe roddodd gyfle i blant a rhieni gymryd rhan a chael hwyl o bell.

“Er fod yr ysgolion bellach yn agored, mae’r ymateb eto eleni wedi bod yn rhyfeddol, gyda chystadleuwyr o gyn belled ag Ynys Môn.

“Rydyn ni’n falch hefyd fod nifer o wyliau eraill wedi dilyn esiampl ein heisteddfod fach ni a dal i gynnal eu gweithgareddau.

“Ac mae’r syniad cystadlaethau dweud jôc yn ogystal â’r gallu i gystadlu ar fideo – yn agor y drws i blant sydd heb arfer cystadlu ar lwyfan.”