Ela Mablen Griffiths-Jones yn ennill y dwbl yn Eisteddfod AmGen

Merch o Gwrtnewydd yn ennill ar y llefaru unigol a’r unawd cerdd dant o dan 12 oed.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llongyfarchiadau i Ela Mablen Griffiths-Jones o Gwrtnewydd am ddod i’r brig mewn dwy gystadleuaeth genedlaethol heddiw yn yr Eisteddfod AmGen.

Gan na chynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto eleni, cyhoeddir canlyniadau yr Eisteddfod AmGen yn fyw ar S4C bob prynhawn yr wythnos hon.

Bu’n rhaid i Ela deithio i Gaerdydd ar gyfer y rhagbrofion, ac fe’i ffilmiwyd hi’n perfformio yno ar gyfer y darllediadau heddiw.

Mae Ela’n berfformwraig ifanc amryddawn ac yn wyneb cyfarwydd mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Heddiw enillodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth lefaru unigol o dan 12 oed ac yn y gystadleuaeth unawd cerdd dant o dan 12 oed.  Tipyn o gamp yn wir.

Ymhlith enillwyr lleol eraill heddiw oedd Delun Aur Ebenezer o Gellan a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth lefaru dan 12 oed a Trystan Bryn Evans o Harford a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth unawd alaw werin dan 12 oed.