Elin Tynllyn yn dychwelyd i’r Senedd

12,145 o fwyafrif i Elin Jones yng Ngheredigion heno

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Elin Jones yn annerch wedi Cyfrif Ceredigion heno. Llun: @CSCeredigion.

Cafodd Elin Jones, Plaid Cymru lwyddiant ysgubol ac ad ennill sedd Ceredigion yn Etholiad Senedd Cymru heno.

Yn wreiddiol o Lanwnnen ac yn gyn ddisgybl Ysgol Gynradd Llanwnnen ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, mae Elin Jones wedi bod yn wleidydd ym Mae Caerdydd ers sefydlu’r Cynulluad yn ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldebau o fod yn Weinidog Amaeth ac yn ddiweddarach yn Llywydd uchel ei pharch.

Mewn blog byw ar wefan Golwg360, dywedodd Dylan Iorwerth:

Ceredigion yw’r canlyniad gorau eto i Blaid Cymru, canlyniad i raddau i chwalfa’r Democratiaid Rhyddfrydol, gydag amryw o’u pleidleisiau nhw yn amlwg wedi mynd at Elin Jones sydd hefyd, bellach, a phleidlais bersonol fawr.

Mae hyn yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill sedd ranbarthol.

Yn y cyfrif yn Ysgol Bro Teifi heno, cyhoeddwyd y canlyniadau gan Eifion Evans y prif swyddog etholiadau ac fe longyfarchodd Elin Jones o’r llwyfan.

Danfonwn longyfarchion haeddiannol i Elin Jones a dathlu ein bod wedi gallu ail ethol un ohonon ni i’n cynrychioli yn y Senedd.