Bu farw’r Canon Wynzie Richards

Coffa annwyl am gyn ficer Cwmann, Llanycrwys a Phencarreg.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Ddoe bu farw’r Parchedig Ganon Wynzie Richards yn 95 oed yng nghartref Annedd, Llanybydder.

Bu’n ficer poblogaidd ar eglwysi Sant Padrig, Pencarreg; Sant Iago, Cwmann a Dewi Sant, Llanycrwys ac ymgartrefodd Mair ac ef yng Nghwmann tan yn ddiweddar.

Er y parchedig deitl oedd ganddo, roedd yn adnabyddus i bawb yn ôl ei enw bedydd sef Wynzie, ac i lawer, dim ond un Wynzie oedd.

Roedd yn ŵr cyfeillgar iawn a feddai ar hiwmor digrifwch ffraeth a dawn dweud celfydd.

Yn enedigol o Faes y Bont ger Gorslas daeth i astudio i fod yn Offeiriad yng Ngholeg y Brifysgol Llanbed lle cwrddodd â Mair a oedd yn gweithio yn Swyddfa Bost y dref.  Priododd y ddau yn 1952.

Aeth yn ‘gurad’ yn Eglwys Llandybie cyn symud i Dregarth ger Bangor.  Symudodd wedyn fel Rheithor i Lanymawddwy.  Yna dechreuodd fel Caplan ar ysgol fôr i fechgyn a throseddwyr ifanc ym Mhortishead ger Bryste ym 1957.

Ond symud nôl i fod yn Ficer yn Llandybie oedd ei hanes ym 1971 a daeth yn Ganon yn Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi. Yna nôl i Gwmann i fyw yn yr hen Ficerdy ym 1987 fel Ficer ar dair eglwys leol.

Roedd yn uchel iawn ei barch yn ei gymuned, yn gymeriad hynod hoffus, annwyl ac unigryw â’r gallu i roi gwên ar wyneb pawb. Roedd hefyd bob amser yn llawn direidi ac yn fardd dawnus.

Roedd ei gyngor a’i gefnogaeth i bawb yn amhrisiadwy ar adegau anoddaf bywyd.  Bu’n gefn ac yn gysur i gymaint o bobl ar hyd y blynyddoedd.

Cyfrannodd lawer i’r gymuned.  Bu’n aelod o Gyngor Cymuned Pencarreg ac yn gadeirydd Ffair Ram, Cwmann.  Ymddeolodd fel ficer yr ardal ym 1992 ond pahaodd y ddau i fod yn weithgar iawn yn y gymuned.

Cydymdeimlir â Mair ei wraig, y plant Dafydd, Sioned a Catrin a’r teulu i gyd.

1 sylw

Geraint Hughes
Geraint Hughes

Bu imi gydweithio a Wynzie pan yn weinidog ym Milo a Mynydd Sïon, Pen y groes. Daethom yn gyfeillion agos ac yn ffrindiau agos. Colled i’w deulu a hefyd ei ffrindiau. Bendith Duw ar ei hatgofion ohono.

Mae’r sylwadau wedi cau.