O ddillad trendi i ddiffodd tanau

Mae Angharad Williams o Siop Lan Llofft wedi llwyddo ar gwrs offer anadlu gyda’r frigâd dân.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Angharad Williams sy’n rhedeg siop ddillad menywod yn Llanbed newydd gwblhau hyfforddiant defnyddio offer anadlu gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Tipyn o newid byd i Angharad sy’n arbenigo ar y ffasiwn diweddaraf ac yn berchen ar fusnes llwyddiannus Lan Llofft.

Mae Angharad yn ymladdwr tân ar alw yng Ngorsaf Dân Llanbed ers peth amser erbyn hyn, ond treuliodd bythefnos yn Abertawe ym mis Mai gan gymhwyso i ddefnyddio offer anadlu tra’n ymateb i alwadau brys yn lleol.

Byd Ffasiwn a Brwydro Fflamau

Esbonia Angharad “Cwrs 10 diwrnod oedd hwn er mwyn pasio i allu gwisgo BAs.  Mae’n gwrs sy’n gyfuniad o “theory” ac ochr ymarferol.  Chi’n dysgu am lot o elfennau yn cynnwys sut ma’ tân yn ymateb, sut ma’r corff yn ymdopi â gwres, sut i chwilio mewn ystafelloedd yn llawn mwg a mewn tywyllwch, a gweithio mewn llefydd cyfyng hefyd wrth wisgo’r cit.”

Ychwanega Angharad “Ar y diwrnod cyntaf chi’n cael eich rhoi yn y “rat run” sef set o gewyll tywyll ac wrth wisgo’r cit BA chi ar eich pengliniau yn trio chwilio bylchau bach i fynd trwyddyn nhw i ddarganfod eich ffordd i’r diwedd tra’n ateb cwestiynau, er mwyn gweld sut chi’n gallu ymdopi o dan amodau tebyg go iawn.”

Roedd naw person ar y cwrs, pedair merch a phum bachgen, ond dim ond saith a gwblhaodd y cwrs ac roedd Angharad yn un ohonyn nhw.

“Mae gwisgo’r cit BA yn brofiad rhyfedd i ddechrau” medd Angharad, “Chi mor gyfarwydd ag anadlu yn naturiol, ma’ nhw ‘n dysgu chi sut i ymddiried yn y BA i gyflenwi digon o aer tra’ch bod chi’n gweithio o dan amodau caled ac mewn llefydd cyfyng. Mae’n pwyso 13.2 cilo hefyd felly tipyn o bwyse ychwanegol, ond erbyn diwedd y cwrs chi’n teimlo lot mwy cyfarwydd gyda fe ar eich cefn ac ar eich wyneb.”

Nawr mae hyn yn golygu bod Angharad yn cael gwisgo BA gyda chriw tân Llanbed i fynd mewn i adeiladau gyda thân neu mewn amodau sy’n rhy beryglus i anadlu.

Ond beth am y siop?  Sut mae Angharad yn llwyddo i weithio mewn dau fyd hollol wahanol?  “Dw i’n lwcus iawn” meddai “bod Janice ar tîm yn rhoi amser bant i fi er mwyn mynd ar gyrsiau fel hyn. Pwy sy angen defnyddio gwyliau blynyddol yn ymlacio pan chi’n gallu mynd ar gyrsiau tân?!”