Cyn Ficer Cwmann a Phencarreg yn Archesgob newydd Cymru

Y Gwir Barchedig Andy John yn cael ei ethol heddiw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
7C754DE5-F434-41CB-BB36

Llun: churchtimes.co.uk

Mae pobl yr ardal hon yn ymfalchïo ym mhenodiad y Gwir Barchedig Andy John yn Archesgob newydd Cymru heddiw.

Daeth y Gwir Barchedig Andy John yn ficer ar eglwysi St. Padrig, Pencarreg; St. Iago, Cwmann; Dewi Sant, Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi yn 2006 tan iddo gael ei wneud yn Esgob Bangor yn 2008.

Dywedodd ficer presennol Pencarreg, Cwmann, Llanycrwys, Cellan a Llanfair Clydogau – Y Parchedig Carys Hamilton “Rwyn siwr ein bod ni gyd yn ymfalchio yn y newyddion gwych yma. Boed iddo fod yn Fugail a fydd yn ein harwain yn ffyddlon, yn fendithiol ac ar hyd llwybrau cyffrous newydd.”