Ail-frandio Marchnad Llanbed ar gyfer y dyfodol

Enw newydd, gwaith celf a gwefan newydd yn ogystal â marchnad y dydd Sadwrn hwn.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddwyd datganiad am newyddion cyffrous gan drefnwyr Marchnad Llanbed.

“Yn gyntaf, bydd yr holl fasnachwyr crefft, ein cerddorion a’n caffi yn dychwelyd i’r farchnad ddydd Sadwrn 24ain Ebrill. Dewch i’r farchnad a’u croesawu yn ôl!”

“Yn ail, nawr ein bod wedi ein lleoli yn barhaol yn yr awyr agored ar gampws Prifysgol Llanbed, rydym yn bachu ar y cyfle i ail-frandio. Byddwn nawr yn cael ein hadnabod fel Marchnad Llanbed / Lampeter Market yn hytrach na Marchnad y Werin, ac mae gennym ni waith celf newydd hardd wedi’i ddylunio ar ein cyfer gan Sarah Ward yn Y Stiwdio Brint.”

Y bwriad hefyd yw sefydlu gwefan gyda dolenni i’r holl fasnachwyr a manylion marchnadoedd sydd i ddod ynghyd â digwyddiadau arbennig, ac yn parhau i ehangu’r ystod o fasnachwyr sy’n cynrychioli’r gorau o gynnyrch Gorllewin Cymru.

“Rydym yn wirioneddol awyddus i roi cyfleoedd a chefnogaeth i fusnesau sefydledig, yn ogystal â masnachwyr sydd newydd ddechrau arni neu roi cynnig ar syniad ar gyfer busnes.”

Cysylltwch â’r trefnwyr os ydych chi’n gynhyrchydd bwyd neu’n grefftwr lleol ac eisiau trafod syniad am stondin, neu roi cynnig ar y farchnad fel lle gwerthu unigryw a gweld sut rydych chi’n dod ymlaen.

Dymuna’r trefnwyr ddiolch yn fawr am y gefnogaeth barhaus i Farchnad Llanbed / Lampeter Marchnad!