Y Frenhines yn Anrhydeddu Aelod Gweithgar yn Eglwys Llanllwni

Mae Janet Howells wedi derbyn arian arbennig gan y Frenhines am ei gwaith i’r Eglwys yn Llanllwni.

gan Owain Davies
Eglwys St. Luc/ St Llonio, Llanllwni

Er difrifol yr achlysur cafwyd achos dathlu yng Ngwasanaeth Dydd Gwener y Groglith yn Eglwys St. Luc/ St. Llonio, Llanllwni heddiw (2/4/21). Roedd hynny am i’r Archddiacon, Yr Hybarch Eileen Davies rannu newyddion a fu’n destun cryn falchder i’r aelodau, sef bod un o’n haelodau mwyaf gweithgar, Mrs Janet Howells wedi eu hanrydeddu gan y Frenhines am ei gwaith i’r Eglwys.

Mae’n arferiad i’r Frenhines gyflwyno arian ar Ddydd Iau Cablyd i ddinasyddion hŷn sydd wedi cyfrannu at waith yr Eglwys. Caiff nifer y bobl sy’n derbyn yr arian arbenig, a gyflwynir mewn bagiau bach lledr coch a gwyn, eu ddynodi gan oedran y Frenhines (neu’r Brenin). Fel arfer byddai hyn yn digwydd mewn gwasanaeth arbenig gyda’r arian yn cael ei gyflwyno gan y Frenhines yn bersonol. Hyd yn ddiweddar byddai’r gwasanaeth naill au yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster neu mewn Cadeirlan rhywle ym Mhrydain gyda’r sawl fyddai’n derbyn yr anrhydedd yn dod o’r Esgobaeth honno. Bellach caiff y sawl sy’n derbyn eu cynig gan wahanol esgobaethau ac enwadau ar hyd y wlad gyda’r gwasanaeth naill au yn Llundain neu Windsor.

Ymhlith y 95 o wragedd a 95 o wyr a dderbyniodd yr arian eleni oedd Janet Howells am gyfraniad oes i Eglwys Llanllwni. Un o ddau yn unig o Esgobaeth TŷDdewi.

Yn anffodus gyda pharhâd y pandemig ni chynhaliwyd y gwasnaeth yn Abaty Westminster a ni chafodd Janet deithio i weld y Frenhines. Ond do, fe ddaeth y postmon, a pharsel go arbenig o Balas Buckingham iddi.

Wedi treilio oes yn byw ac amaethu ym mhlwyf Llanllwni bu Janet yn weithgar yn Eglwys y Plwyf ers yn ifanc. Gwasnaethodd sawl Offeririad yn ddiwyd fel Warden. Mae wedi canu’r organ yng ngwasanaethau’r Eglwys ers degawdau a bu hefyd am flynyddoedd lawer yn athrawes Ysgol Sul. Gosododd sylfaen ffydd gadarn i lawer cenhedlaeth gan eu paratoi ar gyfer cymanfaoedd a Gŵyl Fawr Calan Hen ac annog sawl Gŵr Doeth a Bugail nerfus ymlaen yn y ddrama Nadolig.

Hyd yn ddiweddar bu cangen lewyrchus o Undeb y Mamau yn Llanllwni. Bu Janet yn gydlynudd y gangen wedi ymddeoliad ei sylfaenydd, y diweddar Mrs E.A. Jones. Ac wrth gwrs gyda Janet yn gweithio yn y cefn roedd wastad werth dod i ga’l te yn y ‘Church Room’ wedi Cymanfa neu Wasanaeth arbenig (uchafbwynt y dydd i rai ohonom)!

Gwraig ddiymhongar a gweithgar yw Janet sy’n llawn haeddianol o’r anrhydedd hon. Dymunwn fel aelodau’r Eglwys ei llongyfarch yn fawr a diolch iddi am ei holl waith.