20. Gareth Richards, Cegin Gareth – y flwyddyn a fu

Yr ugeinfed mewn cyfres o gyfweliadau fideo â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Mae’n flwyddyn ers dechau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid19 arnynt yn y flwyddyn.

Gareth Richards, Cegin Gareth, Llanbed yw’r ugeinfed i ymddangos mewn cyfres o fideos gan Clonc360.  Mae Gareth fel arfer yn coginio ac yn croesawu pobl i fwyta yn ei Gegin ar Ffordd Llanwnnen.  Mae’n ysgrifennu colofn “Yn Y Gegin” i Bapur Bro Clonc ers blynyddoedd ac yn gogydd gwadd ar raglen “Prynhawn Da” ar S4C.

Diolch i Sian Llether am ei holi.