Gemau’r Gymanwlad neu’r Eisteddfod Genedlaethol

Dau ddigwyddiad mawr o bwys i Anwen Butten i’w cynnal yr un pryd.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Gyda gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan fis Awst 2022, mae’r bencampwraig fowlio o Gellan mewn tipyn o gyfyng gyngor.

Yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf, trydarodd Anwen Butten:

Deall yn iawn fod yr Eisteddfod yn cael ei symud mlaen i 2022 ond teimlo yn drist iawn fod y dyddiad newydd yn union yr un pryd a Gemau Gymanwlad yn Birmingham ?

Cyhoeddodd Clonc360 y llynedd fod Anwen Butten yn mynd i gael ei hurddo i wisg las yr orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion am ei chyfraniad i fowlio ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.

Gobeithia Anwen hefyd y caiff ei dewis i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a gynhelir yn 2022 ym Mirmingham.  Dyma fyddai ei chweched tro yn cystadlu dros Gymru ar y lefel hon.

Yn ychwanegol i hynny, mae gan Anwen ddyletswyddau pwysig fel rhan o Gomisiwn Athletwyr Cymru sy’n trefnu gwisg y tîm cenedlaethol a’r paratoadau ar gyfer rôl y tîm yn y Seremoni Agoriadol a’r Pentref Athletwyr yn ogystal â’r darpariaeth i ofalu am les y tîm.

Ar y llaw arall y bwriad ganddi oedd treulio wythnos gyfan yn Nhregaron gan ei bod wedi talu am le i’r campervan ar y maes carafannau.

Gan y cynhelir Gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham yn hytrach na mewn gwlad dramor, mae cyflawni ei dyletswyddau yno a mynychu’r seremoni urddo yn Nhregaron dal yn bosibl er nad yn ddelfrydol.

Amser a ddengys, tra ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen i gael mynychu digwyddiadau o’r fath yn 2022, pwy â ŵyr beth fydd y sefyllfa erbyn hynny.