Leighton, Gerwyn Price a’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr dartiau

Yn sgil llwyddiant Cymro ym Mhencampwriaeth y Byd, beth yw dyfodol dartiau fel camp yn lleol?

Bedwyr Davies
gan Bedwyr Davies

Leighton o Gwmann gyda Phencampwr Dartiau’r Byd.

Fel y gŵyr pawb, rwy’n angerddol iawn am y gamp o chwarae dartiau.  Mae gen i gwmni hyrwyddo sef Bishop of Bedlam, ac mae fy ngwraig Nicola a fy mab Leighton yn rhannu’r un diddordeb.  A phan glywyd am fuddigoliaeth y Cymro Gerwyn Price ym Mhencampwriaethau Dartiau’r Byd yn ddiweddar, roedd bloeddiadau o lawenydd yn ein tŷ ni yng Nghwmann.

Nos Sul enillodd Gerwyn Price o Markham, Gwent deitl Pencampwr Dartiau’r Byd PDC (Professional Darts Corporation).  Dyma’r Cymro cyntaf i ennill Pencampwriaeth y PDC a’r pumed i gyd ar ôl Leighton Rees yn 1978, Richie Burnett 1995, Mark Webster 2008 a Wayne Warren 2020 i ennill Pencampwriaeth y Byd BDO (British Darts Organisation).  Yn anffodus bydd Wayne yn methu amddiffyn ei deitl wedi i’r BDO orffen yn 2020.

Gyda Gerwyn yn ennill y teitl, daeth yn rhif 1 y byd (PDC), eto, y Cymro cyntaf i wneud hyn ac yn disodli Michael Van Gerwen o’r Iseldiroedd wrth i Gerwyn ennill Pum Can Mil o bunnoedd am y fuddugoliaeth.

Mae hyn yn ychwanegol i Gerwyn ennill Cwban y Byd i Gymru gyda Jonny Clayton o Bontyberem yn 2020, felly mae Cymru ar frig y Byd Dartiau Proffesiynol yn bresennol.

Ond gyda’r BDO wedi gorffen, ac effiethiau’r Pandemig, beth yw dyfodol y gêm ar y lefelau is yma yng Nghymru? Y newyddion da yw fod y dyfodol yn edych yn gryfach nag erioed yma pryd fyddwn yn dychwelyd i’n ffyrdd arferol.

Mae mudiadau newydd yn eu lle yn barod i godi o olion lludw y BDO. Mae’r Junior Darts Corporation (JDC) ac Academiau i’r Ieuenctid yma yn Llambed, ac hefyd yn Aberystwyth, Abertawe ac Aberhonddu yn y de Orllewin gyda chynlluniau am rai i ddod i Aberteifi, Cei Newydd a Chaerfyrddin yn y dyfodol.

Am y cyngrheiriau a thwrnamentiau agored lleol mae mudiad newydd Modern Amateur Darts (MAD) ar y ffordd gyda sawl digwyddiad newydd a bydd gan bob rhanbarth yng Nghymru gynrychiolaeth yn ogystal â chyfarwyddwr yn edrych ar ôl pob rhanbarth.

Byddaf i yn gweithio gyda mudiadau y JDC a MAD fel y cyfarwyddwr dros Dde Cymru. Bydd y system sirol dal yn ei le gyda y UK Darts Association (UKDA) yn cymeryd yr awennau gan y BDO a bydd y World Darts Federation (WDF) yn adnewyddu twrnamentiau hanesyddol oedd o dan aden y BDO.

Gartref yng Nghwmann mae fy mab Leighton wedi bod yn chwarae dartiau ers iddo fedru sefyll ar ei draed ac wedi dod gyda fi a chwrdd a dod i adnabod sawl un o gewri’r gêm fodern.  Yn y lluniau gallwch ei weld gyda Gerwyn Price, Jonny Clayton a Peter ‘Snakebite’ Wright. Mae e’n yn aelod o Academi Dartiau Bedlam (Llun plant yn chwarae) yn Llambed lle mae Nicola a finnau yn hyfforddwyr.

Gallwch weld llun hyfforddwyr Llambed hefyd uchod yn cael achrediad o’r JDC ac mae’n rhaid dweud rwy’n gweld dyfodol disglair i’r gêm ac i’r ieuenctid yn y gamp yng Nghymru.  Pwy a ŵyr, gobeithio y bydd Leighton arall yn dod yn enw cyfarwydd yn y byd dartiau rhyw ddydd!