Gillian Elisa yng nghynhyrchiad Dan y Wenallt yn Llundain

Actores o Lanbed â rhan yng nghampwaith Dylan Thomas.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae’r actores adnabyddus o Lanbed yn gweithio yn Llundain ar hyn o bryd ac yn paratoi ar gyfer perfformiadau o Dan y Wenallt gyda’r National Theatre.

Wedi treulio blwyddyn y cyfnod clo yn ei chartref yn Llanbed, dywed Gillian Elisa ei bod yn teimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan o gynhyrchiad Cymreig gyda chast o enwogion o Gymru.

Bydd Theatr Olivier yn ailagor ar yr 16eg Mehefin gydag Under Milk Wood gan Dylan Thomas a deunydd ychwanegol gan Siân Owen.  Michael Sheen sy’n arwain y cwmni actio sy’n cynnwys Susan Brown, Ifan Huw Dafydd, Alan David, Michael Elwyn, Kezrena James, Karl Johnson, Gaynor Morgan Rees, Anthony O’Donnell, Siân Phillips a Cleo Sylvestre.

Dyluniwyd y set a’r gwisgoedd gan Merle Hensel, y goleuo gan Tim Lutkin, y symudiadau gan Imogen Knight, caneuon a gyfansoddwyd gan Edward-Rhys Harry, a sain a chyfansoddiadau ychwanegol gan Donato Wharton.

Perfformir Under Milk Wood yn ystod y dydd a gyda’r hwyr am gyfnod o dros bum wythnos ac mae prisau’r tocynnau yn amrywio o £20 i £89.

Wrth holi Gillian sut brofiad yw gweithio ar ddrama fawr Dylan Thomas a hynny yn Llundain, dywedodd, “Gwefreiddiol, yn enwedig gweithio gyda Michael Sheen a Sian Phillips ac wrth gwrs Gaynor Morgan Rees ac Ifan Huw Dafydd.”

Ychwanegodd Gillian “Mae’n brofiad unigryw iawn. Un funud roeddwn i yn Llanbed yn mwynhau bod gartre, y funud nesa ’roedd Llunden yn galw.  Gallen nhw ddim wedi dewis drama mwy addas yn y cyfnod yma, na Under Milk Wood. A chael gweithio gyda’r amryddawn Lyndsey Turner y cyfarwyddwraig sydd wedi ennill sawl gwobr am ei chyfarwyddo graenus.”

Dywed gwefan y National Theatre:

“Mae cymuned yn cysgu. Os gwrandewch yn ofalus, gallwch glywed eu breuddwydion.

Capten y môr wedi ymddeol yn dyheu am ei gariad coll.  Y berchnoges yn byw mewn braw o’i gwesteion.  Tad na all gael gafael ar ei atgofion mwyach.  Mab yn chwilio am brynedigaeth.

Wrth iddyn nhw ddeffro i wyau wedi’u berwi a’r postmon, mae trigolion pentref bach yng Nghymru yn jyglo hen gyfrinachau a realiti newydd.

Mae Michael Sheen, Karl Johnson a Siân Phillips yn ymddangos yn y cwmni actio sy’n anadlu bywyd newydd i gampwaith barddonol Dylan Thomas. Lyndsey Turner sy’n cyfarwyddo.”

Cymeradwyir y theatr gan gynllun See It Safely dan oruchwyliaeth Official London Theatre, felly gellir teimlo’n hyderus o wybod bod staff, artistiaid a chynulleidfaoedd yn ddiogel o ran COVID yn seiliedig ar ganllawiau diweddaraf y llywodraeth.

Bydd seddi yn Theatr Olivier yn cael eu pellhau’n gorfforol trwy gydol rhediad Under Milk Wood.  Bydd tocynnau ar gael i aelwydydd a swigod cymorth eu prynu mewn senglau, parau neu grwpiau o 3 neu 4 o bobl. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gael gafael ar docynnau Dydd Gwener cyflym yn agosach at bob perfformiad.  Cyn eich ymweliad, byddwch yn derbyn e-bost gyda’ch amser cyrraedd penodol.  Er mwyn cael eich derbyn i’r adeilad, bydd angen i bawb dros 16 oed ddarparu manylion cyswllt ar gyfer Prawf ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd wrth gyrraedd.

Pob dymuniad da i Gillian Elisa ar y fenter newydd hon.  Oes rhywun yn mynd i Lundain i weld perfformiad?  Cofiwch gyhoeddi adolygiad neu sylwadau ar wefan Clonc360.