Goronwy Evans yn procio’r cof ar ôl 50 mlynedd o wasanaethu’r gymuned

Yr wythnos hon cyhoeddir atgofion y cymeriad unigryw Goronwy Evans o Lanbed. Mae Procio’r Cof (Y Lolfa) yn cynnwys hanesion di-ri am gymeriadau a digwyddiadau ardal Llanbedr Pont Steffan a thu hwnt.

gan Gwenllian Jones
Gorowny-Evans-Procior-Cof

Hunangofiant newydd Goronwy Evans, Procio’r Cof (Y Lolfa)

Yr wythnos hon cyhoeddir atgofion y cymeriad unigryw Goronwy Evans o Lanbed. Mae Procio’r Cof (Y Lolfa) yn cynnwys hanesion di-ri am gymeriadau a digwyddiadau ardal Llanbedr Pont Steffan a thu hwnt.

Nid hunangofiant traddodiadol yw’r gyfrol, meddai Goronwy Evans:
“Pan ofynnwyd i fi a oedd diddordeb gen i mewn ysgrifennu hunangofiant, fy ateb oedd nad oeddwn yn hapus i wneud hynny o dan y teitl ‘hunangofiant’. Yn iaith Ifans y Tryc, “Sgersli bilîf” bod pawb yn datgelu popeth mewn hunangofiant, mwy na fyddwn i am wneud. Cytunais i gasglu ychydig o’m hanes o dan y teitl Procio’r Cof.”

Wrth ddarllen Procio’r Cof mae cyfraniad helaeth Goronwy i fywyd diwylliannol ardal Ceredigion yn dod yn amlwg. Buodd Goronwy Evans yn Weinidog Undodaidd am dros hanner cant o flynyddoedd. Ac mae e wedi gwireddu sawl breuddwyd gan gynnwys sefydlu siop lyfrau’r Smotyn Du yn Llanbed a chasglu dros filiwn o bunnoedd tuag at elusen Plant Mewn Angen dros gyfnod o 35 mlynedd.

“Mwynheais y profiad o ysgrifennu a chefais syndod i ddarganfod bod cymaint o atgofion yn cuddio yng nghilfachau’r cof. Nid yw’r llyfr yn dilyn patrwm arbennig. Fe allwch chi ei godi, darllen pennod neu ddwy a’i roi i lawr, yna ei ailgodi a mynd ymlaen, heb golli’r trywydd,” meddai Goronwy Evans.

Mae Procio’r Cof yn dilyn hanes Goronwy Evans yn Cwmsychbant, ei fagwraeth yn Llanwenog, ei addysg yn Llandysul a’i fywyd fel oedolyn yn Llanbedr Pont Steffan gyda’i wraig Bet, ei feibion a’i wyrion. Mae hefyd yn sôn am gymeriadau’r ardal gan gynnwys rhai byd-enwog, y gwyddonydd Desin Williams, y pensaer Frank Lloyd Wright, Dr John Gwenogvryn Evans. Ceir hefyd bennod am rai o grwydriaid yr ardal, sef pwnc dau lyfr blaenorol Goronwy Evans (Ar Grwydir ac Ar Grwydir Eto) gan gynnwys Timothy Blong. Hefyd ceir hanesion rai o gymeriadau’r cylch, fel Ron Davies y ffotograffydd adnabyddus o Aberaeron a ddaeth i sylw’r byd.

Ceir hanes digwyddiadau mawr, gan gynnwys perthynas y canwr Paul Robeson â’r wlad ac yntau’n un o ffigyrau diwylliannol a gwleidyddol mwyaf blaenllaw’r ugeinfed ganrif. Perfformiodd yn Eisteddfod Glynebwy yn 1958 ac roedd Goronwy yno ac yn ddigon ffodus i gyfarfod ag e.

Adroddir hanes y cyfarfyddiad ynghyd â sut y dechreuodd perthynas Paul Robeson gyda Chymru yn Llundain yn ystod gorymdeithiau protest glowyr de Cymru yn yr 1920au. Parhaodd y berthynas yma hyd at ei farwolaeth a bu’n canu mewn nifer o gyngherddau, fel cyngerdd y glowyr yng Nghaernarfon i godi arian.

“Fy ngobaith ydi y bydd darllen am yr hanesion a’r cymeriadau yma yn procio’r cof ynoch chithau hefyd,” meddai Goronwy Evans.

Mae Procio’r Cof gan Goronwy Evans ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).