Gorsgoch yn dathlu’r Nadolig

Drama’r Geni ym Mrynhafod, asyn, parti a Santa!

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
Y plant gyda'r asynnod
Mair a'r asyn.
Trefor y brenin ac Ilan Alffi y bugail.
Santa'n cyrraedd y parti!
Santa a Chorrach Enfys
Y criw yn paratoi yn y festri cyn y gwasanaeth
Mair a Joseff (Aron ac Esyllt)
Pawb ar ddiwedd y gwasanaeth.
Tri Gŵr Doeth (Leisa, Trefor ac Ilan-Rhun.)
Aros ac aros am y dyn ei hun...
Ilan Alffi a Bethan. - bugail a gŵr y llety.
Sara ac Efa'r angylion hyfryd.
y cast!
Ysgol Sul Brynhafod
Asyn Mair.

Perfformiwyd Drama’r Geni am y tro cyntaf ers blynyddoedd mawr yng Nghapel Brynhafod, Gorsgoch ar ddydd Sul y 19eg o Ragfyr.

Bu’r plant yn ymarfer ac yn paratoi ers wythnosau yn y festri, ac roedd y cyffro a’r disgwyl yn eithriadol. Ar ôl methu perfformio ers mor hir, roedd hi’n ddiwrnod mawr i’r plant, y rhieni, yr hyfforddwyr a’r gymuned i gyd!

Cafwyd gwledd o adloniant hyfryd, gyda’r gynulleidfa’n canmol plant yr ysgol Sul.

Meddai aelod hynaf y capel, Martha Davies, “Roedd hi mor neis cael clywed y plant yn canu, a chlywed drama’r geni unwaith eto ym Mrynhafod. Roedd pawb yn sbeshal. Prynhawn lyfli”

Wedi’r gwasanaeth, gorymdeithiodd pawb draw i’r neuadd, gan ddilyn asynnod! Dyma beth oedd sbort ar brynhawn ffres a gaeafol.

I goroni’r cyfan, wedi’r te parti yn y neuadd, daeth Santa ag anrheg i’r plant i gyd. Cyrhaeddodd mewn steil! Meddai Santa:

“Rwy’ wedi parcio’r sled draw yn Llain ac wedi cael lifft draw i’r neuadd tu ôl i gwadbeic Corrach Hatch fan hyn, chwarae teg iddo.”

Diwrnod arbennig iawn yng Ngorsgoch gyda phawb yn gadael yn teimlo’n Nadoligaidd iawn.

 

Os am wylio’r gwasanaeth Nadolig yn llawn, cliciwch yma.

Cast Drama’r Geni eleni oedd:

Mair – Esyllt Jones
Joseff – Aron Lewis
Gŵr y Llety – Bethan Llewellyn
Bugeiliaid – Ilan Alffi a Monti Wyn
Doethion – Trefor Davies, Leisa Hatcher ac Ilan-Rhun
Angylion – Sara Lews ac Efa Jones
Wyn bach – Moc Davies ac Owain Hatcher