Grŵp Meddygol Bro Pedr yn agos iawn at ddiwedd y Rhaglen Frechu

Galw hefyd ar bawb yng ngrŵp 6 o gleifion i gysylltu am ail frechiad.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Grŵp Meddygol Bro Pedr wedi cyhoeddi eu bod yn agos iawn at ddiwedd y Rhaglen Frechu.

Ar hyn o bryd maent yn galw’r grŵp olaf o gleifion (grŵp 6) a gafodd eu brechiad cyntaf ddydd Gwener 12fed Mawrth 2021.

Yn ôl y Bwrdd Iechyd dylai’r cyfnod amser rhwng brechiadau fod yn 10-11 wythnos. Felly penderfynwyd galw cleifion i mewn i gael eu hail frechiad yn seiliedig ar y dyddiad y rhoddwyd y brechiad cyntaf.

Felly, os cawsoch eich brechiad cyntaf naill ai ym meddygfa Llanbed neu Lanybydder ar y 12fed Mawrth 2021 neu gyn hynny, disgwylir chi ar gyfer eich ail frechiad.

Cysylltwch â’r feddygfa cyn gynted â phosibl ar 01570 422665 fel y gellir trefnu apwyntiad i chi. Ni fydd disgwyl i chi fynychu’r Ganolfan Brechu Torfol ar gyfer eich ail frechiad.

Pwysleisia Sian Jones, Rheolwr Practis, “Mae’n parhau i fod yn hanfodol ein bod ni i gyd, yn ogystal â chael ein brechu, yn dilyn y canllawiau presennol ar olchi dwylo, gwisgo gorchuddion wynebau a chadw pellter cymdeithasol er mwyn lleihau lledaeniad COVID-19.”

Ychwanega Sian Jones “Diolch i chi am eich cydweithrediad a’ch amynedd parhaus yn ystod yr amser hwn.”