Grŵp Meddygol Bro Pedr yn cynnal y clinig brechu Covid olaf

Ydych chi wedi derbyn eich ail frechiad eto?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae Grŵp Meddygol Bro Pedr yn cynnal y clinig brechu Covid olaf a hynny ym Meddygfa Brynmeddyg, Llanybydder ddydd Gwener 11eg Mehefin rhwng 9yb a 5yp.

Os nad ydych wedi cael apwyntiad eto i fod yn bresennol ar y diwrnod hwn (i dderbyn eich ail frechiad), ffoniwch y feddygfa ar 01570 422665 i archebu’ch slot amser.

Gofynnir i chi ffonio ar ôl 2yp fel bod cleifion ag anghenion meddygol yn gallu cael blaenoriaeth yn y bore.

Apelia Sian Jones, Rheolwr Practis “Rhannwch hwn gyda ffrindiau a theulu nad oes ganddynt fynediad rheolaidd â chyfryngau cymdeithasol.  Diolch i chi am eich cydweithrediad a’ch amynedd parhaus.”