Gwasanaeth orthodonteg newydd yn dod â gwên i bobl yr ardal

My Dentist yn Llanbed yn darparu triniaeth orthodonteg y gwasanaeth iechyd o’r 1af o Dachwedd.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y bydd y gwasanaethau orthodonteg i gleifion ardal Gogledd Ceredigion a Llanbed yn arbennig yn cael eu darparu yn agosach i’w cartref o’r 1af o Dachwedd.

Dywed datganiad gan y Bwrdd Iechyd:

Bydd preswylwyr sy’n byw yn ardaloedd cod post SY a SA48 nawr yn gallu derbyn eu triniaeth yn My Dentist yn Llanbed yn hytrach na theithio i Gaerfyrddin.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yn ardal Gogledd Ceredigion ac mae’r Swyddfa Deintyddol a’r bwrdd iechyd yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwasanaeth hwn.

“Bydd y contract newydd hwn yn galluogi cleifion o’r ardal i gael mynediad at ofal orthodonteg yn agosach i’w cartref sy’n rhywbeth y mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio i’w gyflawni ers cyn amser.

Hoffem ddiolch i ddarpar gleifion am eu cefnogaeth i gadw at y broses uchod a fydd yn sicrhau y gellir asesu a chefnogi pob claf cyn gynted a phosibl.”

Nid oes angen i gleifion sydd eisoes ar y rhestr aros orthodonteg gymryd unrhyw gamau pellach.

Ni ddylai cleifion gysylltu â’r Practis yn uniongyrchol ag ymholiadau rhestrau aros. Dylai unrhyw un sydd â chwestiynau am y rhestr aros ffonio 01267 229696 neu e-bostio HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk.

Bydd cleifion yn cael eu dyrannu i’r Practis o’r rhestr aros yn seiliedig ar eu hangen clinigol am driniaeth orthodonteg y GIG.

Bydd y Practis yn gweithredu yn unol â chanllawiau cenedlaethol i sicrhau diogelwch cleifion a staff. Mae hyn yn golygu y byddant yn defnyddio PPE priodol a fydd yn cael effaith ar nifer y cleifion y gall y practis eu gweld yn ddiogel bob dydd ac felly efallai y bydd rhywfaint o oedi ychwanegol wrth gael mynediad at ofal.

Dyma newyddion i’w croesawu a datblygiad a fydd yn rhoi gwên hyfryd ar wynebau cleifion yr ardal hon.