gan
Dylan Lewis
Mae’r gwasanaethau bryd yn cydweithio mewn digwyddiad difrifol yn yr afon Teifi yn Llanbed heno.
Mae Brigad Dân Llanbed, Heddlu Dyfed Powys ynghyd â gwasanaethau fel Uned Achub Llifogydd a Dŵr a Chi Chwilio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn bresennol.
Cyrhaeddodd yr holl gerbydau Pont Steffan amser te prynhawn ‘ma ac maent dal yn bresennol er iddi dywyllu.
O ganlyniad i hyn, ceir peth oedi ar yr A482 sef y brif ffordd i Lanbed o Sir Gaerfyrddin ar adeg prysuraf y dydd gyda’r heddlu yn rheoli’r traffig.