Gwobrwyo Uwch Reolwr Nyrsio am ymdrin yn effeithiol â’r heriau diweddar

Meryl Jenkins o Lanbed yn ennill parch haeddiannol gan ei chydweithwyr yn ystod Covid.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llongyfarchiadau i Meryl Jenkins, o Lanbed am ennill tystysgrif Gweithiwr y Mis ar gyfer Ionawr 2021 gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda yr wythnos hon.

Mae Meryl yn Uwch Reolwr Nyrsio yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin a bu’n rhan allweddol o benderfyniadau anodd wrth drefnu gofal i gleifion Covid.

Dywed datganiad gan y Bwrdd Iechyd:

Mae hyn i gydnabod eich ymrwymiad i gymryd her newydd Uwch Nyrs Arweiniol ac ymdrin yn effeithiol â’r heriau a gyflwynir gan Gam 1 a 2 o ymateb COVID.

Disgrifiwyd eich rhyngweithio â thimau lleol a chenedlaethol yn unol â rheoli gofal critigol ledled Cymru a dealltwriaeth o anghenion y cleifion fel rhai arbennig.

Mae eich arweinyddiaeth wedi ennill parch haeddiannol gan eich cydweithwyr ac yn haeddu cydnabyddiaeth am eich ymdrechion.

Diolch am eich holl waith caled.

Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd Meryl “Mae’n anrhydedd fawr i dderbyn y wobr. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn ond wedi bod llawer yn rhwyddach gyda’r tîm o’dd tu ôl i fi. Hebddyn nhw i gyd fydden i ddim wedi gallu neud e. Ma’ nhw i gyd yn angylion a rwy mor falch fy mod wedi gallu eu harwain.”

Clywyd Meryl yn siarad ar Radio 5 Live yn ystod yr amser anodd gan sgwrsio’n onest ac emosiynol am yr amgylchiadau anodd, a bu’n siarad ar Newyddion S4C hefyd gan ddisgyrifio’r ymdrechion a fu wrth ddarparu gofal a thriniaeth arbenigol.

Rydym i gyd yn yr ardal ag edmygedd mawr ohonoch Meryl ac o bob gweithiwr allweddol a weithiodd mor galed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan ofalu ar ôl bobl fregus.  Llongyfarchiadau.