Hapus, parchus ac yn barod i helpu.

Daniel Davies o Lanfair Clydogau sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ ym Mhapur Bro Clonc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Daniel Davies o Lanfair Clydogau sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc.

Yr eiliad o’r embaras mwyaf:
Pan o’dd dad yn gorfod cario fi i’r gwely ar ôl meddwi a gorfod tynnu dillad fi bant.

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?:
Ces i row gan fy ffrindiau i pan oedd rhaid i fi fynd i’r gwely am 8 o’r gloch oherwydd gormod o gwrw.

Y peth mwyaf rhamantus a wnaeth rhywun i ti erioed?: Dydw ddim mewn perthynas, ond mae’r merched yn prynu shots i fi yn y Castle.

I ba gymeriad enwog wyt ti’n debyg?:
Peter Kay.

Beth mae Papur Bro Clonc yn ei olygu i ti?:
Mae’n neis i weld beth sydd yn mynd ‘mlaen yn yr ardal.

Pryd llefaist ti ddiwethaf?:
Pan wnaeth y Foelallt gau.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?:
Gwerthu defaid yn y mart.

Cofiwch felly brynu rhifyn Tachwedd Papur Bro Clonc er mwyn darllen mwy o’i ymatebion gwreiddiol, ar gael nawr mewn siopau lleol a thrwy danysgrifio ar y we.