? 32. Helena Gregson, Pwythau – y flwyddyn a fu

Dyma’r 32ain mewn cyfres o gyfweliadau fideo â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Mae’n flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Mae Helena Gregson yn rhedeg Pwythau, busnes atgyweirio ac addasu dillad ar Ffordd y Porthmyn, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Helena am ateb cwestiynau Clonc360.