Helfa Drysor Llambed

Penwythnos Gŵyl Bro360

Ann Bowen Morgan
gan Ann Bowen Morgan
2C54D139-3E30-481A-8989
2C54D139-3E30-481A-8989
BD5A186F-16F3-4511-B0AD
9618B444-19E1-41EF-9941

Cawsom bnawn bendigedig ar gyfer ein helfa drysor o amgylch y dref ar bnawn Sadwrn 4ydd o Fedi.  Trefnwyd y digwyddiad gan Blaid Cymru Llambed a daeth tua 26 o grwpiau o bob oed i gymryd rhan.

Roedd cryn fwrlwm wrth i’r timau ddarganfod y cliwiau gan fynd i ddau gyfeiriad o’r Cwmins ar hyd y stryd fawr a draw i’r coleg.  Diolch i Rhys Bebb a’i wraig Sian am gynllunio helfa oedd yn addas i bawb o bob oed.  Roedd rhai mor ifanc â phedair lan at yr 80au!

Ar y diwedd aethom i gyd i’r Hedyn Mwstard am baned, cacen a sgwrs a diolch i Liz a’i thîm am eu darpariaeth.

Roedd pawb yn frwd i glywed y canlyniadau, yn wir roedd 3 grŵp wedi cael marciau llawn felly tynnwyd yr enillwyr allan o het.  Enillwyd gan dïm WD, sef Megan, Elin, Dafydd a Dylan, yn ail Llinos a Gwawr, yn drydydd tïm y Granell, sef Avril ac Elin ac yn bedwerydd tïm Tryfan, sef Tryfan, Delyth a Rob.

Diolch i Elin Jones, AS, Rhys Bebb ac Ann Morgan am y gwobrau. Roedd yn braf iawn i gael cwmni ein haelod seneddol Elin Jones a’i mam gyda ni.

Y digwyddiad nesa fydd noson yng nghwmni Brigyn a gair gan ein haelodau seneddol ar Nos Wener, Tachwedd 12fed yn festri Brondeifi.  Tocynnau £10 gan Ann Morgan neu Siop y Smotyn Du.