Helpu cwsmeriaid i deimlo’n gartrefol yn salon Andrew Price.

Cadwyn y Cyfrinachau yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Rebecca Harrison o Lanbed sy’n ateb cwestiynau Cadwyn y Cyfrinachau yn rhifyn Rhagfyr Papur Bro Clonc.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Ar yr amser, o’n ni ddim yn gallu gweld ffrinidau na mynd mas a nawr fi’n neud lan amdano.

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?
Teigr achos ma nhw’n benderfynol.

Beth yw’r peth gorau am dy swydd bresennol?
Helpu cwsmeriaid i deimlo’n gartrefol yn salon Andrew Price.

Petaet ti’n anweladwy am ddiwrnod, beth fyddet ti’n ei wneud?
Yn gyntaf, cerdded mewn i’r banc, helpu fy hunan i’r arian ac wedyn dal awyren i’r Maldives.

Cofiwch brynu eich copi chi o Bapur Bro Clonc er mwyn darllen mwy am Rebecca.  Mae rhifyn Rhagfyr ar gael nawr yn y siopau lleol neu drwy danysgrifio’n ddigidol ar y we.