Helpu diogelwch ffyrdd ger Ysgolion Llanybydder a Charreg Hirfaen

Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Gorchymyn i wahardd stopio ar ochrau ffyrdd ger ysgolion lleol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Y ffordd ger Ysgol Llanybydder.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu gwneud Gorchymyn i wahardd stopio ar ochrau ffyrdd ger ysgolion Llanybydder a Charreg Hirfaen yng Nghwmann ynghyd ag ysgolion eraill y sir.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin o’r farn y bydd y cynigion yn helpu diogelwch ffyrdd yn y lleoliadau hyn.  Effaith y Gorchymyn hwn fydd gwahardd stopio:

– rhwng 8.00yb a 5.00yp ar unrhyw ddydd heblaw ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ar yr ochrau ffyrdd a’r darnau ffyrdd,

– rhwng 8.00yb a 9.00yb a 2.30yp a 4.00yp ar unrhyw ddydd heblaw ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ar yr ochrau ffyrdd.

Nodir y darnau hynny o ffordd a’r ochrau ffordd y cyfeirir atynt drwy gyfrwng cynllun sydd wedi’i atodi i’r Gorchymyn ac fe’u lleolir gerllaw neu yng nghyffiniau’r ysgolion.  Gosodwyd copïau o’r Gorchymyn ger yr ysgolion ar yr 17eg o Fawrth.

Bydd y Gorchymyn yn cynnwys eithriadau cyfyngedig i wneud gwaith adeiladu a gwaith arall ac i gyflawni pwerau neu ddyletswyddau statudol.

Mae’r manylion llawn am y cynnig hwn yn y Gorchymyn drafft a gellir archwilio copi ohono, ynghyd â map sy’n dangos yr ochr ffordd yr effeithir arni a datganiad am resymau’r Cyngor dros fwriadu gwneud y Gorchymyn, ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Ar y B4337 yn Llanybydder rhoddir marciau ‘cadwch yn glir’ rhwng 8.00yb a 5yp ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn a dydd Sul.  Y darn ffordd yr effeithir arno yw o bwynt 77 metr i’r dwyrain o ganol y gyffordd â Heol y Deri am bellter o 24 metr tua’r dwyrain.

Yng Nghwmann bwriedir rhoi marciau ‘cadwch yn glir’ hefyd rhwng 8.00yb a 5yp ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn a dydd Sul ar yr A482, ar y darn ffordd o bwynt 19 metr i’r de-orllewin o ganol y gyffordd â’r ffordd fynediad sy’n arwain at Ysgol Carreg Hirfaen am bellter o 44 metr tua’r gogledd-ddwyrain.

Y ffordd ger Ysgol Carreg Hirfaen.

Petai cerbyd yn stopio ar unrhyw ddarn ffordd neu ochr ffordd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, bydd Tâl Cosb yn daladwy.

Os ydych am wrthwynebu’r Gorchymyn arfaethedig dylai eich rhesymau dros wrthwynebu gael eu cyflwyno ar ffurf llythyr a anfonir at y Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith, yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin erbyn y 9fed o Ebrill 2021.