Hwyl a haelioni’r Ŵyl yn Ysgol Bro Pedr

Er yr orfodaeth i drosglwyddo i ddysgu o bell ar ddiwedd tymor yr ysgol, bu digonedd o hwyl yn y dyddiau olaf ar y campws.

gan Ifan Meredith
Picture-1

Cynrychiolwyr o’r Ysgol yn roi i’r Banc Bwyd.

IMG_5608

Pencampwyr Blynyddoedd 7, 8, 9, 10 ac 11

IMG_5609

Pencampwyr y Chweched a lluniau o’r deuddydd hwyl.

Ar gais aelodau’r Cyngor Ysgol, roedd hi’n fwriad eleni i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘hwyl’ ar ddiwrnodau olaf y tymor ac yn sgil canfod barn cymuned yr ysgol am syniadau ar beth i gynnal ar y diwrnodau hwyl yma, cafwyd un syniad i gael cystadlaethau pêl osgoi rhwng dosbarthiadau cofrestru, yn ogystal â thwrnament dartiau tîm.

Wedi cyhoeddiad nos Fawrth y bydd ysgolion Ceredigion yn trosglwyddo i ddysgu o bell am dridiau olaf y tymor, roedd yn rhaid rhoi’r cynlluniau yn weithredol ar ddydd Iau y 16eg o Ragfyr a dydd Gwener y 17eg o Ragfyr.

Roedd cryn cyffro yn yr ysgol ben bore Iau, gyda’r enwog  ‘Fferet’ sef y chwaraewr dartiau byd enwog, Jonny Clayton yn danfon neges ‘pob lwc’ i gystadleuwyr twrnament dartiau cyntaf yr ysgol. Tra bu blwyddyn 7 yn gwylio pantomeim rhithiol fore Iau, bu disgyblion blwyddyn 8 yn brwydro i fod yn enillwyr Twrnament Dartiau y Cyngor Ysgol eleni. Wedi brwydr agos a sgôr gyfartal rhwng dau dîm, daeth tîm dartiau blwyddyn 8/9 Steffan i’r brig, gyda 8 Dewi (1) yn dod yn ail.

Cyn cinio, roedd yn amser i ddisgyblion blwyddyn 9 dangos eu doniau dartiau, ac wedi cystadleuaeth glos, tîm 9 Dewi (1) enillodd yr ornest, gyda thîm blwyddyn 9 Steffan yn colli yn y ffeinal. Ar ôl cinio, roedd yn gyfle i flwyddyn 7 frwydro gyda thîm blwyddyn 7 Non (2) a 7 Dewi (1) yn cwrdd â’i gilydd gyda 7 Non (2) yn bencampwyr.

Fore Gwener, roedd yn gyfle i ddisgyblion blwyddyn 11 wynebu ei gilydd. Wedi taflu brwd a thri thîm yn agos i’r ffeinal, tîm 11 Pedr wynebodd Sêr Geinor (11N) yn y rownd derfynol gyda Dion Davies yn sicrhau’r fuddugoliaeth i Sêr Geinor.

Cwrddodd 10N (2) â 10D yn ffeinal blwyddyn 10 lle sicrhaodd 10 (2) y fuddugoliaeth. I gloi’r twrnament dartiau, gwelwyd bwrlwm mawr ar brynhawn Gwener, gyda thîm Filip (13S) yn hawlio’r teitl fel Pencampwyr y Chweched a thîm Guto (13N) yn gorffen yn ail.

Yn nhwrnament y prynhawn, bu’r Chweched a’r athrawon yn chwarae lle roedd yn gystadleuaeth agos iawn.

Yn ystod y deuddydd hefyd, bu yna gystadleuaeth pêl osgoi o dan ofal yr adran Addysg Gorfforol. Roedd hwn hefyd yn ddigwiddiad hwylus.

Ar brynhawn Gwener, cafwyd gwasanaeth Nadolig dan ofal y Pennaeth, Mrs Jane Wyn a phenaethiaid blwyddyn. Yn ystod y gwasanaeth, dangoswyd ffilm o eitemau Nadoligaidd hyfryd dan ofal y Gyfadran Celfyddydau Mynegiannol a gwobrwywyd disgyblion mwyaf cymwynasgar pob dosbarth.

Mae modd i chi wylio’r wasanaeth drwy ddilyn gwefan Nadolig Bro Pedr

Yn ogystal ar y dydd Gwener olaf, trefnodd y Cyngor Ysgol Ddiwrnod Siwmperi Nadolig i’r campws 3-19 gyda disgyblion yn dod â chyfraniadau i Fanc Bwyd Llanbed. Trosglwyddwyd pentwr sylweddol o nwyddau hanfodol i’r Banc Bwyd, yn y gobaith y byddai’n gymorth i deuluoedd ein hardal.

Diolch yn fawr, iawn i Siop Sainsbury’s yn Llanbed am gyfrannu’r siocledi fel gwobrau i’r twrnament dartiau ac i’r Cyngor Ysgol am drefnu twrnament dartiau llwyddiannus dros ben. Diolch i bawb a fu ynghlwm â’r gweithgareddau hwyliog eraill fel y gystadleuaeth pêl-osgoi, cwis a’r panto rhithiol ac i’r staff a disgyblion a fu wrthi’n ddiwyd yn paratoi at y Gyngerdd Nadolig rhithiol eleni.

Dymuna holl staff a disgyblion Ysgol Bro Pedr, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.