Ymunwch â Jambori y Cyfnod Sylfaen

Gwaith y Siarter ar waith gyda Sam Ebenezer yn arwain y canu.

Anwen Eleri Bowen
gan Anwen Eleri Bowen

Mae’n bleser cyhoeddi ein bod fel Adran Addysg yng Ngheredigion o dan ymbarel y Siarter Iaith wedi mynd ati a chreu Jambori rhithiol ar gyfer disgyblion Cyfnod Sylfaen Ysgolion Ceredigion.

Diolch yn fawr iawn i Sam Ebenezer am ei holl waith gyda’r prosiect, mae wedi llwyddo i greu adnodd gwych, yn arbennig i blant Ceredigion. Mi fydd ein disgyblion yn sicr wrth eu boddau gyda’r hwyl a’r miri.

Mae dolen i’r Jambori cyflawn wedi ei rannu gyda’n hysgolion.

Dyma rhagflas o’r Jambori i chi – Mwynhewch!