John Castell y Cymeriad Bro

Portread un o brif gymeriadau Llanbed ym Mhapur Bro Clonc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae nifer sy’n darllen Clonc ac yn lleol i Lambed yn adnabod John Penry Davies neu John Castell, ac yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc mae Ceri ei wyres wedi ysgrifennu portread diddorol ohono.

Ganed John yn Fferm Blaenplwyf Uchaf, Llanfair, y pedwerydd plentyni Tom a Marged Davies, ac yn frawd ieuengaf i’r diweddar Olive, Kitty a Dai. Fferm gymharol fach oedd hi gyda 7 buwch odro, 20 o ddefaid, un neu ddwy hwch y flwyddyn, ond yn y cyfnod hwnnw roedd hynny’n ddigon i gynnal y teulu. Cofiai John gerdded trwy’r caeau o Flaenplwyf i fynychu ysgol Gynradd Peterwell yn 5 oed.

Cawn ei hanes ar hyd ei oes o fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfair Clydogau i ymddeol fel amaethwr ar fferm Castell i symud i fyw gyda’i ddiweddar wraig Betty i Fryncastell.

Mae Sioe Llambed wedi bod yn agos iawn at ei galon ar hyd y blynyddoedd a hynny yn amlwg gan ei fod wedi bod yn aelod gweithgar o bwyllgor y sioe ers tua 70 mlynedd. Bu’n stiward yn y blynyddoedd cynnar ac yna, yn gyfrifol am y stondinau am 50 mlynedd. Bu John hefyd yn Gadeirydd ac yn Llywydd y sioe ac yn ei chefnogi yn flynyddol.

Cofiwch brynu’r rhifyn diweddaraf o Bapur Bro Clonc er mwyn darllen y portread i gyd.  Mae ychydig gopïau ar ôl yn y siopau lleol neu gallwch danysgrifio ar wefan Clonc360 .