48. Krystian Byczyk, Siop Fwyd Ladybug – y flwyddyn a fu

Dyma’r 48ain mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Aeth dros blwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Mae Krystian Byczyk a’i deulu yn berchen siop fwyd Ladybug ac yn arbenigo mewn bwydydd o wlad Pwyl. Lleolir y siop (lle roedd siop Lomax) ar Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Krystian am ateb y cwestiynau.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bob un ohonom. Yn achos y busnes, bu’n waith caled sicrhau ein bod yn cadw lan gyda’r holl ganllawiau a’r newidiadau e.e. gwisgo mygydau a defnyddio hylif hylendid dwylo. ‘Roedd angen egluro’r rheolau i’n cwsmeriaid yn aml, gan bwysleisio eu bod yn hanfodol i’w defnyddio yn y siop er mwyn cadw ni a nhw yn ddiogel. ‘Rwy’n amau weithiau bod rhai yn tybio fy mod yn ddychymygu’r holl reolau!

‘Rydym hefyd wedi bod yn pryderu a fyddai’r cyflenwadau i’r siop yn ein cyrraedd o Wlad Pwyl. Hefyd, a fyddent yn dod mewn pryd i ateb gofynion ein cwsmeriaid.

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

Mi wnaethom i gyd lwyddo i addasu a chydymffurfio gyda’r holl reolau a chanllawiau. Credaf erbyn hyn fod pawb ohonom wedi blino ar y sefyllfa ac yn edrych ymlaen at gael gweld a mwynhau cwmni ein teuluoedd a’n ffrindiau. Ni fu hynny’n bosib yn ystod y cyfnodau clo.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

‘Rydym wedi dysgu pa mor fregus yw bywyd mewn gwirionedd. Mae mor bwysig hefyd mewn cyfnodau anodd fel hyn i allu rhoi a derbyn cymorth a chefnogaeth gan y gymuned leol. Diolch i bobl Llanbed a’r ardal am eu cefnogaeth i ni.