Llanybydder 0 Llambed 22

Pwynt bonws i’r ymwelwyr ar Barc OJ

gan Geraint Thomas

Llun gan Gary Jones.

Teithiodd torf enfawr y siwrnai fer o Lambed i Barc OJ, Llanybydder nos Fercher y nawfed o Fedi i wylio’r ymwelwyr yn parhau gyda’i dechreuad diguro i’r tymor rygbi newydd. Doedd y perfformiad ddim yr un gorau gan y buddugwyr, ond roedd yn ddigon i guro tîm ifanc, brwdfrydig Llanybydder.

Dechreuodd Llambed ar dân, gan sgorio cais safonol yn y munudau cyntaf, trwy’r asgellwr chwyth, Idris Lloyd. Daeth y cais yn dilyn cyfnod o basio anturus, gyda sawl pas allan o’r dacl yn galluogi’r bêl i gael ei lledaenu allan at Lloyd, a gamodd mewn tu fewn yr amddiffyn i sgorio.

Dilynodd cyfnod o rwystredigaeth i’r ymwelwyr, gyda llu o gamgymeriadau yn gwahodd y tîm cartref i ymosod. Yn wir, roeddent yn anlwcus i beidio sgorio cais eu hunain. Cyn diwedd yr hanner cyntaf, daeth ail gais, y tro yma i’r canolwr Jac Williams. Derbyniodd y bêl ar y llinell hanner cyn torri trwyddo a dangos ei gyflymder i sgorio yn y cornel. Daeth trydydd cais yn fuan wedyn, y tro yma i’r capten James Edwards. Eto, torri trwyddo o bell wnaeth ef, cyn tirio o dan y pyst, i wneud y trosiad yn un hawdd i’r maswr Osian Jones i adael y sgôr ar yr hanner yn 17-0 i’r ymwelwyr o Lambed.

Dilynodd yr ail hanner batrwm tebyg i’r un cyntaf gyda’r ddau dîm yn euog o gamgymeriadau sylfaenol oedd yn torri llyf y gêm. Gwnaeth Llambed ddim sgorio eu pedwerydd cais, a sicrhau’r pwynt bones, tan 10 munud cyn y diwedd. Daeth y cais yn dilyn gwaith adeiladol graenus gan y tîm. Wrth ledaenu’r bêl allan i’r chwyth fe agorodd bwlch o flaen y blaenasgellwr, Ryan Holmes i dirio lawr. Gorffennodd y gêm yn 22-0 i Lambed. Yn dilyn penwythnos rhydd, fe fyddan yn croesawu Talacharn i Ffordd y Gogledd ar y deunawfed o Fedi.