Lleihau maint cyrtiau chwaraeon Llambed

Deiseb yn dangos anfodlonrwydd defnyddwyr Canolfan Hamdden Llambed.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Honnir bod yna gynlluniau i ostwng maint y cyrtiau chwaraeon cyfredol yng Nghanolfan Hamdden Llambed.

Fel rhan o greu Hwb Llesiant yn Llambed, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig lleihau chwarter maint y neuadd chwaraeon sy’n golygu na fydd gan y Ganolfan Hamdden bellach Gwrt Pêl-rwyd dan do, Cwrt Pêl-fasged, Cwrt Pêl-droed pump bob ochr, Cwrt Pêl-foli a bydd yn golygu gostyngiad yn nifer y cyrtiau badminton.

Er bod yna gefnogaeth i ychwanegu’r cyfleusterau y bydd yr Hwb Llesiant yn eu darparu ar gyfer cymuned Llambed, credir y bydd dileu’r hyn sydd eisoes yn gyfleuster a ddefnyddir yn dda yn peryglu dyfodol a lles cyfranogwyr clybiau a thimau lleol ac yn atal rhai newydd rhag ffurfio yn y dyfodol.

Mewn sylwadau ar y ddeiseb, rhoddir cefnogaeth i dîm pêl-rwyd Llewod Llambed sy’n dibynnu’n llwyr ar y cwrt llawn ar gyfer ymarferion a gemau cyson. Mae’n debyg nad yw’r cynlluniau ar gael i’r cyhoedd eto ond fe’u cyhoeddir yn fuan ar gyfer ymgynghori.