Llwyddiant Elan yn Eisteddfod C.Ff.I. Cymru

Elan o Glwb Cwmann yn ennill y gystadleuaeth lefaru dan 19 oed.

gan alphaevans

Bu Elan Jones o Glwb Ffermwyr Ifanc Cwmann yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth lefaru dan 19 oed yn Eisteddfod C.Ff.I. Sir Gaerfyrddin ar ddechrau mis Mawrth.

Yn dilyn hyn, aeth ymlaen i gynrychioli’r sir yn ystod Eisteddfod Rithiol C.Ff.I. Cymru a gynhaliwyd dros y dyddiau diwethaf.

Cipiodd Elan y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth gyda’r darn gosod ‘Egni Cymwynas’ gan Ifor ap Gwilym. Llongyfarchiadau mawr i ti Elan, tipyn o gamp a phob lwc i’r dyfodol!

Fideo o Elan yn llefaru