Luned yn ennill Gwobr Myfyriwr Harper Cymru

Llwyddiant i Luned gyda Gwobr Myfyriwr Harper Cymru a Chynllun Pesgi Moch Menter Cymru a ChFfI Cymru 2021. 

gan alphaevans

Wrth ddod i ddiwedd ei chyfnod yn astudio Gwyddoniaeth Milfeddygol ym Mhrifysgol Harper Adams mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai llwyddiannus a chyffrous i Luned Jones o Lanwnnen.

Yn ddiweddar, enillodd Luned wobr myfyriwr Harper Cymru/CAFC; gwobr sy’n cael ei dyfarnu i fyfyriwr israddedig blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Harper Adams sydd wedi cyfrannu’n helaeth at gymdeithas myfyrwyr Harper Cymru ac hefyd at gymuned myfyrwyr ehangach Prifysgol Harper Adams ac sy’n debygol o fod yn llysgennad addawol i Brifysgol Harper Adams yn y dyfodol. Tipyn o gamp!

Yn ogystal, mae Luned hefyd wedi dod i’r brig fel un o enillwyr Cynllun Pesgi Moch Menter Cymru a ChFfI Cymru 2021. Pwrpas y gystadleuaeth a’r cynllun yw dod o hyd i 6 ceidwad moch newydd a brwdfrydig. Fel rhan o’r cynllun, bydd y 6 aelod llwyddiannus yn derbyn sesiynau hyfforddi i’w paratoi ar gyfer cadw moch cyn i’r moch eu cyrraedd ym mis Medi. Cyfrifoldeb yr aelodau wedyn bydd paratoi’r moch yn barod i gystadlu yn y Ffair Aeaf.

Bwriad Luned yn awr yw parhau i weithio ar fferm y teulu ym Mlaenwaun, ynghyd â pharhau â’i haddysg wrth astudio am radd Meistr yn arbenigo ar anifeiliaid fferm.

Llongyfarchiadau mawr iti Luned, a phob dymuniad da i’r dyfodol. Mae amaethyddiaeth a dyfodol cefn gwlad Cymru mewn dwylo da gydag unigolion fel ti!