Mart Ceffylau Llanybydder yn dechrau nôl heddiw

Mart Ceffylau cyntaf ers dros flwyddyn.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

www.evansbros.co.uk

Heddiw, cynhelir Mart Ceffylau Llanybydder am y tro cyntaf ers cyn cyfnod clo’r pandemig ond bydd yna reolau llym gwahanol i’r arfer.

Mae Evans Bros yn cydweithio’n agos â Chyngor Sir Gâr er mwyn sicrhau diogelwch yn ystod y dydd ac er mwyn ail adeiladu enw da’r mart am flynyddoedd i ddod.

Bydd gweithdrefn profi ac olrhain yn ei lle.  Rhaid i bawb gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo a gwisgo mwgwd.  Yn anffodus hefyd ni chaniateir mynediad i neb o dan 18 oed, menywod beichiog ac unrhyw un sy’n teimlo’n anhwylus.  Pwysleisir mai digwyddiad busnes fydd hwn ac nid digwyddiad cymdeithasol.

Fel arfer daw Llanybydder yn fyw ar ddiwrnod Mart Ceffylau gyda stondinau marchnad, cerbydau ceffylau, cymeriadau lleol a sŵn, arogl a golygfeydd o geffylau o bob lliw a llun.

Cynhelir y mart fel arfer ar ddydd Iau olaf pob mis a dywedir mai dyma’r marchnad geffylau reolaidd fwyaf Ewrop. Mae’n gallu denu gwerthwyr a phrynwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon.

Felly, newyddion da i Lanybydder ac i’r masnachwyr yw gweld y mart ceffylau yn dychwelyd.  Os allith pawb gadw at y rheolau presennol, yna gallwn sicrhau parhad i’r Mart Ceffylau llwyddiannus ac adnabyddus yn Llanybydder.