Mart Llanybydder yn mynd o nerth i nerth

Trêd aruthrol o dda ym Mart Llanybydder heddiw.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Llun: @Evans_Bros1895

Gwerthwyd dros 600 o dda stôr ym Mart Llanybydder heddiw ac roedd y trêd yn aruthrol o dda. Braf oedd gweld wynebau newydd yn y mart gan gynnwys prynwyr a gwerthwyr.

Gwerthwyd yr eidon gorau am £1,580 o eiddo Bowen, Pwllglas, Llanllwni a’r aner orau am £1,460 o eiddo Gibbon Partners, Derlwyn, Alltwalis. Gwerthwyd y fuwch orau am £1,370 o eiddo Evans, Nantyboncath, Alltwalis.

Rydym yn derbyn cofrestriadau ar gyfer yr arwerthiant nesaf yn barod a gynhelir ar y 10fed o fis Ebrill felly cysylltwch os oes rhywbeth gyda chi i werthu. Bydd gwobrau arbennig am y prisiau uchaf yn yr arwerthiant nesaf yn ogystal.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb am eu cefnogaeth unwaith eto.