Mart Llanybydder yn orlawn ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc

Bwrlwm yn ôl yn y pentref ar gyfer arwerthiant defaid a lloi.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Cafwyd diwrnod llwyddiannus ddydd Llun yn y mart yn Llanybydder ar gyfer arwerthiant defaid a lloi.

Roedd y mart yn orlawn ac roedd yn braf cael bwrlwm yn ôl yn y pentref ar ôl y blwyddyn a hanner anodd a fu.

Roedd dros 3,000 o bennau yn yr arwerthiant rhwng y lloi, defaid magu ac ŵyn ac fe werthodd popeth yn dda iawn.

Roedd y prisiau fel a ganlyn…

Defaid lladd hyd at £100; Ŵyn tew hyd at £116.10; Defaid magu hyd at £200; Hyrddod magu hyd at 250gns; Ŵyn benyw hyd at £100; Ŵyn stôr hyd at £104.50; Lloi hyd at £380.

Dyma ddechrau ar gyfnod prysur iawn ym mart Llanybydder wrth i ni agosau at y sêls prysur drwy gydol y gaeaf.

Am ragor o wybodaeth am ein holl arwerthiannau neu i fwcio eich stoc mewn rhowch alwad i ni yn y swyddfa 01570 480444.

Hoffai Evans Bros ddiolch i’w holl cwsmeriaid unwaith eto am y genfogaeth barhaol.