Mart Llanybydder yn orlawn unwaith eto

Gwerthwyd dros 650 o wartheg yn y mart da stôr Ddydd Sadwrn

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans
B7F7FF16-29DA-499B-B025-B9AB5C99F1C7

Gwerthwyd bron i 650 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda’r trêd yn parhau i fod yn arbennig o dda.

Gwerthodd yr eidon gorau am £1660 o eiddo Williams, Cwmhwplin a gwerthodd yr aner orau am £1540 o eiddo Davies, Danyderi. Gwerthodd y baren orau am £1110 o eiddo Williams, Dolgwm Isaf. Gwerthodd y tarw gorau am £2,500 o eiddo Thomas, Ffynondafolog a’r pris uchaf am fuwch a llo oedd £1620 o eiddo Jones, Garthlwyd.

Rhai dyddiadau i’ch dyddiadur ar gyfer y misoedd nesaf.

13eg o Dachwedd – 2il ffair wartheg.

11eg o Ragfyr – arwerthiant gwartheg gyda dosbarthiadau Nadolig.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth gyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.