Marwolaeth annisgwyl un o ieuenctid Llanbed

Taenwyd cwmwl o dristwch ac o anghredinaeth dros y dref ar ddechrau’r wythnos.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Taenwyd cwmwl o dristwch ac o anghredinaeth dros Llanbed ar ddechrau’r wythnos o glywed am farwolaeth annisgwyl un o bobl ifanc y dref.

Roedd Aled John yn fyfyriwr Rheolaeth Busnes yng Nghaerdydd, ond cofia llawer amdano fel cyn ddisgybl hoffus o Ysgol Bro Pedr ac aelod ffyddlon o dîm rygbi ieuenctid Llanbed.

Cafwyd teyrngedau iddo yn y dyddiau diwethaf ar wefannau cymdeithasol fel cyfaill, cwmniwr da, arwr a rhywun oedd wastad yn codi gwên.  Roedd e’n gymaint o ran o fywyd ieuenctid Llanbed, mae mor anodd gan lawer ddychmygu’r lle hebddo.

Cydymdeimlir yn ddiffuant â’i rieni, ei frawd a’i deulu ynghyd â’i holl ffrindiau yn eu colled ofnadwy a’u hiraeth.