Marwolaeth myfyriwr gyda TB yn Llanbed

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi cysylltiadau â’r ymadawedig er mwyn cynnig sgrinio iddynt.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe yr hysbyswyd hwy am farwolaeth myfyriwr gyda Thwbercwlosis (TB) ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbed.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda’i gilydd i nodi cysylltiadau agos yr ymadawedig a chynnig sgrinio TB iddynt.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru nid oes cysylltiad rhwng yr achos hwn a’r achosion parhaus o TB yn Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Sion Lingard, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Tîm Rheoli Digwyddiad amlasiantaeth (IMT) wedi cael ei gynnull i ymchwilio i’r achos hwn ac unrhyw fesurau rheoli sydd eu hangen.

“Mae’r risg i’r cyhoedd yn parhau’n isel iawn, gan ei bod yn anodd trosglwyddo TB. Mae’n gofyn am gyswllt agos ac estynedig ag unigolyn heintus, fel byw yn yr un aelwyd, i berson gael ei heintio.

“Rydym yn y broses o nodi cysylltiadau agos yr ymadawedig er mwyn cynnig sgrinio TB iddynt gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac rydym yn rhoi cyngor i staff a myfyrwyr y brifysgol.

“Mae modd gwella TB gyda chwrs llawn o driniaeth.”

Mae gwaith i nodi cysylltiadau agos yn parhau, felly cysylltir yn uniongyrchol â’r rhai a fyddai’n cael budd o sgrinio TB.

Dylai unrhyw un sy’n dioddef cyfuniad o beswch estynedig heb esboniad (weithiau gall hyn gynnwys peswch gwaed), colli pwysau heb esboniad neu chwysu yn ystod y nos ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu.

Dymuna Iechyd Cyhoeddus Cymru gydymdeimlo â theulu a ffrindiau’r ymadawedig a nodi na fydd yn bosibl gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hwn hyd nes y cynhelir ymchwiliadau pellach.