Medal Gee i Janet a Dewi

Anrhydeddu dau sy’n gwasanaethu yng nghapeli Bedyddwyr y fro

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips

Mae eglwysi cylch Bedyddwyr Gogledd Teifi yn ymfalchïo yn fawr yn llwyddiant dau o’u haelodau– un o eglwys Noddfa, Llanbedr Pont Steffan, a’r llall o Aberduar. Caiff Janet Evans a Dewi Davies (Glynteg) eu hanrhydeddu eleni â Medal Gee. Rhoddir y fedal i rai dros 75 sydd yn dal i gyfrannu at yr Ysgol Sul – gydag hynny yn cynnwys ymwneud ag ysgolion Sul plant ac ieuenctid, ysgol Sul oedolion, seiat neu ddosbarth Beiblaidd.

Mae Janet yn aelod ffyddlon yn Noddfa, Llanbedr Pont Steffan, yn ddiacon, yn is-drysorydd ac yn athrawes Ysgol Sul. Un o nodweddion amlwg Janet yw ei pharodrwydd i addasu. Mae Janet wedi sôn fwy nac unwaith ar y cyfryngau am yr angen i fod yn hyblyg er mwyn darparu ysgol Sul i blant ardal Llanbed, ac roedd newid yr Ysgol Sul o ddydd Sul i brynhawn yn ystod yr wythnos yn dipyn o chwyldro – ac wedi profi i fod yn llwyddiant. Mae hi hefyd wedi addasu yn ystod y pandemig i gynnal Ysgol Sul ar Zoom, sy’n dipyn o her i ddal diddordeb plant o dair oed i fyny!

Diacon yn Aberduar yw Dewi Davies – a chan fod Dewi Davies arall yn frawd yng nghyfraith iddo ac hefyd yn ddiacon yn Aberduar, rhaid yw galw’r Dewi hwn yn ‘Dewi Glynteg’. Yn Aberduar y mae wedi bod yn aelod erioed, a chyflawnodd ddyletswyddau trysorydd am flynyddoedd. Mae wedi bod yn gyfrifol am yr Ysgol Sul yn Aberduar; ac er nad oes Ysgol Sul yno bellach, y mae e’n dal i drefnu a chynnal oedfa yng ngofal y plant a’r bobol ifanc adeg y Pasg a’r Nadolig. Fel Janet, mae Dewi wedi gallu addasu yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ – trefnodd oedfa Nadolig i bobol ifanc Aberduar llynedd i gael ei ffilmio a’i darlledu ar y we.

Bydd cyfarfod yn yr hydref i anrhydeddu Janet a Dewi. Dymuniadau gorau i’r ddau, gan obeithio y cânt flynyddoedd eto o iechyd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o addolwyr.