Grŵp Meddygol Bro Pedr yn cyhoeddi cynllun brechu rhag y ffliw

Cynhelir rhaglen frechu i’r rhai dros 65 oed ar gyfer yr wythnos nesaf.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn dilyn oedi gyda chyflenwad brechiadau ffliw, mae Grŵp Meddygol Bro Pedr wedi cyhoeddi rhaglen frechu i bawb dros 65 oed ar gyfer yr wythnos nesaf.

Meddygfa Taliesin Llanbed Dydd Mercher 29ain Medi 12.30 – 4.00yp.

Meddygfa Brynmeddyg Llanybydder Dydd Gwener 1af Hydref 1.00 – 5.00yp.

Meddygfa Taliesin Llanbed Dydd Sadwrn 2il Hydref 9.00yb – 4.00yp.

Gofynnir i gleifion i ffonio 01570422665 ar ôl 10.30yb i drefnu apwyntiad.