? Côr Meibion Cwmann a’r Cylch – ymarfer cyntaf wedi’r Cofid.

Cyfweliad fideo gyda swyddogion Côr Cwmann.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Cyfarfu Côr Meibion Cwmann a’r Cylch nos Fercher 14eg Gorffennaf i ail ddechrau’r ymarferion canu. Dyma gyfarfod cynta’r Côr ers mis Mawrth 2020. Cynhaliwyd yn yr awyr agored yng nghartref Keri Davies yn Llanbed. Baswr yw Keri ac yn Llyfrgellydd y Côr a diolch iddo am fenthyg ei ardd fendigedig ar gyfer y cyfarfod.

Bu’r swyddogion tan arweiniad Kees Huysmans (Cadeirydd) ac Alun Jones (Ysgrifennydd) yn gwneud y trefniadau i gadw’r aelodau’n ddiogel. Gwisgodd pawb fwgwd a chadw pellter o ddwy fedr oddi wrth ei gilydd. Benthyciwyd cadeiriau gan Neuadd Cwmann gan ddiolch iddynt am eu caredigrwydd.

Daeth 27 o aelodau i ganu a chymdeithasu yng nghwmni Elonwy Davies (Arweinydd) ac Elonwy Pugh Huysmans (Cyfeilydd). Cewch wybod mwy wrth wylio’r cyfweliad gyda swyddogion y Côr. Pob dymuniad da i’r Côr oddi wrth Clonc360.