43. Melinda Walton, Siop Tenovus – y flwyddyn a fu

Dyma’r 43ain mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Aeth blwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Melinda Walton yw rheolwr siop elusen canser Tenovus sydd ar y Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr iddi am ateb cwestiynau Clonc360.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

Yr her fwyaf i ni gyda Tenovus oedd colli’r incwm o’r siopau. Mae’r siopau’n adnodd bwysig i Tenovus i godi arian i gefnogi gwasanaethau gofal i’r rhai sydd gyda chanser. ’Rydym fel arfer yn gwerthu’r eitemau roddwyd i ni yn y siop. Nid oedd hynny’n bosibl yn y cyfnodau clo. Nid oeddem ychwaith yn medru cynnig gwasanaeth clicio a chasglu. Daeth ein holl waith o godi arian at wasanaethau hanfodol i ben.

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr wedi bod yn wydn ac wedi addasu wrth i ni gynllunio ar gyfer yr amser pan fyddai’n bosibl ail-agor y siop. ’Rydym wedi addasu’r ffordd ’rydym yn derbyn a phrosesu eitemau i’w gwerthu. ’Rydym hefyd wedi dysgu gweithio gyda nifer llai o wirfoddolwyr i gydymffurfio gyda’r rheolau megis cadw pellter cymdeithasol.

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

Mae’r gefnogaeth gawsom gan y gymuned yn Llanbed wedi bod yn gadarnhaol iawn wrth i ni ail-agor y siop wedi’r cyfnodau clo. ’Rydym yn sylwi adnodd mor fuddiol yw’r siop i’r gymuned a’i bod yn leoliad i gymdeithasu yn ogystal a bod yn leoliad i ail-gylchu eitemau. Daw rhai o’n cwsmeriaid i’r siop yn ddyddiol i chwilio am fargen… ac am glonc! Mi wnaeth y ffaith bod y siop ar gau cyhyd beri loes emosiynnol iddynt ac yn arbennig y rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain.

Mi wnaethom ddysgu pa mor allweddol yw’n gwasanaethau yn y gymuned leol. Gobeithio’n wir pe bai cyfnod clo arall y caiff siopau elusennol fel un ni barhau i fod ar agor i gynorthwyo’n cwsmeriaid a’r gymuned.