Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Darparu gweithgareddau a sesiynau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu barhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.

Taith Fygi:

Rydym wedi ail-gychwyn ar ein sesiynau teithiau bygi poblogaidd yn y dair ardal, sef Hendygwyn-ar-Daf, Castell Newydd Emlyn a Chaerfyrddin. Mae’r teithiau yn ymgynnull am 10:15yb ac yn cychwyn am 10:30yb ym mhob ardal. Ymunwch â ni am gyfle i sgwrsio, gwneud ychydig o ymarfer corff ac am wac hamddenol. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw gan fod nifer cyfyngedig yn gallu mynychu yn dilyn canllawiau’r llywodraeth. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

Dywedodd mynychwr:

Hyfryd yw dychwelyd i’r sesiynau yma er mwyn i fy mabi cael y cyfle i weld plant arall ac i mi gael y cyfle i sgwrsio gyda rheini, ni fel criw yn ddiolchgar i’r Fenter am drefnu’r dosbarth i ni gwrdd yn wythnosol.

Beicio Mynydd:

Mae’r Fenter yn gyffrous i gychwyn clwb beicio mynydd yn Byrgwm, Brechfa i bobl ifanc flynyddoedd 6, 7 ac 8, i gychwyn ar nos Iau’r 10fed o Fehefin o 5-7yh. Niferoedd cyfyngedig felly cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

Helfa Magi Ann

Mae’r Fenter yn trefnu tair Helfa Magi Ann i deuluoedd yng Nghaerfyrddin 12/06/21, San Clêr 26/06/21 a Chastell Newydd Emlyn 10/07/21, croeso i deuluoedd a phlant hyd at cyfnod sylfaen.

Byddwn yn cwrdd am 10:15yb ac i gychwyn am 10:30yb. Ni fydd Magi Ann yn bresennol yn y sesiynau. Er mwyn dilyn canllawiau’r llywodraeth, mae’n rhaid i bawb gofrestru o flaen llaw i sicrhau lle, cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru neu am fwy o wybodaeth.

Sesiynau Cymorth Digidol:

Rydym fel Menter yn cynnig cymorth digidol. Gallwn gynnig cymorth i chi ddefnyddio unrhyw ddyfais neu i’ch helpu i ddatblygu unrhyw sgiliau digidol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu gyda ni a gallwn gynnig cymorth 1 i 1 i chi dros y ffôn neu dros Zoom. Os oes gennych unrhyw anghenion eraill cysylltwch gyda ni am sgwrs. Cysylltwch ar 07939 962042 neu e-bostio ceris@mgsg.cymru i drefnu eich sesiwn.

Byddwn yn parhau gyda’n darpariaeth o eitemau a chyfresu difyr megis ein cystadleuaeth ffotograffiaeth wythnosol, ein fideos amser stori a chreu crefft, ap yr wythnos a chwis cyflym. Yn ogystal â chyflwyno cyfresu newydd dros y gwanwyn.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris dros y ffôn: 07939 962042.