Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ystod Haf 2021.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu barhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.

Helfa Magi Ann

Cynhaliwyd Helfeydd Magi Ann yng Nghaerfyrddin, San Clêr a Chastell Newydd Emlyn dros yr wythnosau diwethaf. Roedd hi’n braf gweld gymaint o deuluoedd yn ymuno â ni mewn digwyddiad awyr agored yn ddiogel. Cawson foreau o ganu, dawnsio, chwarae gemau, helfa Magi Ann a stori i gloi digwyddiad hwyliog. Diolch i bawb wnaeth ymuno â ni.

Dywedodd rhiant: Diolch am drefnu digwyddiad i’r teulu cyfan, fe wnes i, fy ngŵr a’r plant fwynhau yn San Clêr. Rwy’n falch iawn o’r cyfle cafodd y plant i gymysgu gyda phlant eraill o’r un ardal ac i ni gwrdd â rheini yn yr awyr agored. Edrychwn ymlaen at weld beth arall fyddwch yn trefnu yn yr ardal cyn hir.

Picnic yn y parc ac adloniant gan Siani Sionc:

Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno tri phicnic yn y parc gyda Siani Sionc dros yr haf.

Caerfyrddin 27ain o Orffennaf alma@mgsg.cymru

Saron Llandysul 9fed o Awst gwawr@mgsg.cymru

Llanboidy 25ain o Awst ceris@mgsg.cymru

£1 y pen i blant dros 12 mis, bydd oedolion a babis hyd at 12 mis am ddim. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw gan fod nifer cyfyngedig yn gallu mynychu yn dilyn canllawiau’r llywodraeth.

Clwb Theatr Cymru:

Mae’r Mentrau Iaith a Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi eu bod yn cynnal Clwb Theatr Cymru eto eleni er mwyn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd creadigol a hybu sgiliau perfformio i blant ledled Cymru dros yr haf.

Bydd Clwb Theatr Cymru yn dod â phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom yn ystod gwyliau’r haf. Bydd y sesiynau – sy’n cael eu trefnu gan Theatr Genedlaethol Cymru ac yn cynnwys cyfleoedd i ddawnsio, perfformio a chreu cymeriadau – yn addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2 i 6.

Mae’r Mentrau Iaith yn awyddus i gynnal gweithgareddau lu trwy’r flwyddyn i sicrhau bod plant ym mhob cwr o Gymru yn cael y cyfle i fwynhau defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol. Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim. Cyslltwch gyda nia@mgsg.cymru i gofrestru.

Helfeydd Trysor:

Edrychwn ymlaen at ail-gyflwyno ein helfeydd trysor dros yr haf. Mae’r Fenter wedi cydweithio gyda gwirfoddolwyr yr ardal i greu helfa drysor mewn 4 ardal yng Ngorllewin Sir Gâr, sef Llansteffan, Pont Tyweli, Caerfyrddin a Hendy Gwyn-ar-Daf. Felly dewiswch ardal a chysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru er mwyn derbyn helfa. Bydd yr atebion yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Llun y 30ain o Awst.

Parti yn y Parc:

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Menter Iaith Sir Benfro i gynnal Parti yn y Parc ym Mharc Capel Newydd ar yr 21ain o Orffennaf am 10:30yb. Sesiwn i’r teulu cyfan sy’n cynnwys canu, dawnsio, gemau a stori. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw gan ddilyn canllawiau’r llywodraeth bethan@menterisrbenfro.com

Sesiynau Cymorth Digidol:

Rydym fel Menter yn cynnig cymorth digidol. Gallwn gynnig cymorth i chi ddefnyddio unrhyw ddyfais neu i’ch helpu i ddatblygu unrhyw sgiliau digidol. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu gyda ni a gallwn gynnig cymorth 1 i 1 i chi dros y ffôn neu dros Zoom. Os oes gennych unrhyw anghenion eraill cysylltwch gyda ni am sgwrs. Cysylltwch ar 07939 962042 neu e-bostio ceris@mgsg.cymru i drefnu eich sesiwn.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris dros y ffôn: 07939 962042.